Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Zoom

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 27 Ionawr 2021

Amser y cyfarfod: 13.30
 


319(v3)  

------

<AI1>

Cynhelir y cyfarfod hwn drwy gynhadledd fideo.

Ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddulliau electronig.

Mae'r Llywydd hefyd yn hysbysu, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, fod y cyhoedd wedi eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod yn parhau i gael ei ddarlledu'n fyw a bydd cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

2       Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd)

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI3>

<AI4>

3       Cwestiynau Amserol

(20 munud)

[Gofyn i’r Prif Weinidog]

Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am nifer yr achosion o COVID-19 yn y DVLA yn Abertawe?

 

[I’w ateb gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol]

David Rees (Aberafan): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi trigolion a gafodd eu symud o'u cartrefi yn Sgiwen yn dilyn llifogydd a achoswyd gan ddŵr sy'n deillio o hen safle glofaol?

</AI4>

<AI5>

4       Datganiadau 90 Eiliad

(5 munud)

</AI5>

<AI6>

5       Penodi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Dros Dro

(15 munud)

NDM7559 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â pharagraff 4 (1) o Atodlen 1 i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 a Rheol Sefydlog 10.5, yn enwebu Nick Bennett i’w benodi gan Ei Mawrhydi fel Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Dros Dro ar gyfer tymor sy’n dechrau ar 1 Awst 2021 ac yn dod i ben ar 31 Mawrth 2022.

Dogfennau ategol
Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau

</AI6>

<AI7>

6       Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) – Gofal a chymorth ar gyfer goroeswyr strôc

(30 munud)

NDM7463 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod y Gymdeithas Strôc wedi cyhoeddi ymchwil i brofiadau goroeswyr strôc yn ystod pandemig COVID-19, a ganfu fod goroeswyr strôc a gofalwyr yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar y gwasanaethau a'r cymorth sydd eu hangen arnynt.

2. Yn nodi bod derbyniadau mewn unedau strôc acíwt yng Nghymru wedi gostwng 12 y cant rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2020 o gymharu â 2019.

3. Yn credu, er gwaethaf pandemig COVID-19, y dylai goroeswyr strôc allu parhau i gael gafael ar y gofal acíwt, y gwasanaethau adsefydlu, y driniaeth iechyd meddwl a'r cymorth sydd eu hangen arnynt i adfer cystal â phosibl.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod byrddau iechyd lleol yng Nghymru yn parhau â'u gwaith i wella gofal strôc yng Nghymru ac nad ydynt yn caniatáu i COVID-19 ohirio newidiadau strwythurol y mae mawr eu hangen.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun cenedlaethol newydd ar gyfer gwasanaethau strôc pan ddaw'r cynllun cyflawni presennol ar gyfer strôc i ben er mwyn sicrhau bod gofal i'r rhai y mae strôc yn effeithio arnynt yn cael ei gryfhau ledled Cymru yn y dyfodol.

Cynllun Cyflawni ar gyfer Strôc 2017-2020

Cyd-gyflwynwyr
Andrew RT Davies (Canol De Cymru)
Nick Ramsay (Mynwy)
Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)
Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Huw Irranca-Davies (Ogwr)

Cefnogwyr
Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)
Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Neil McEvoy (Canol De Cymru)

</AI7>

<AI8>

7       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Cyflenwad a chyflwyno brechlynnau COVID-19

(30 munud)

NDM7562 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu'r camau cyflym a gymerwyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU i sicrhau mynediad at 367 miliwn o ddosau o frechlynnau a sicrhau mai'r DU oedd y wlad gyntaf yn y byd i awdurdodi brechlyn.

2. Yn cydnabod y cyflenwad sylweddol o frechlynnau a ddarparwyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU i bob gwlad gartref.

3. Yn gresynu at y ffaith y dechreuodd y broses o gyflwyno'r brechlyn COVID-19 mor araf yng Nghymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu cynllun pum pwynt i warantu llwyddiant y rhaglen frechu, sy'n cynnwys:

a) penodi gweinidog brechlynnau Llywodraeth Cymru;

b) torri biwrocratiaeth i alluogi fferyllfeydd a gweithwyr iechyd proffesiynol sydd wedi ymddeol neu gyn-weithwyr iechyd proffesiynol i roi'r brechlynnau;

c) pennu targedau clir a chyhoeddi gwybodaeth ddyddiol fanwl i sicrhau bod y rhaglen frechu ar y trywydd iawn ym mhob rhan o Gymru;

d) ysgogi 'byddin' o wirfoddolwyr i gefnogi GIG Cymru i gyflawni'r rhaglen frechu; ac

e) cyflwyno brechiadau 24/7 mewn canolfannau ledled y wlad.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Rebecca Evans (Gwyr)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu gwaith prydlon y rheoleiddiwr annibynnol, yr MHRA, i sicrhau mai’r Deyrnas Unedig oedd y wlad gyntaf yn y byd i awdurdodi brechlyn.

2. Yn nodi’r camau a gymerodd Llywodraeth y DU ar ran y 4 cenedl i sicrhau cyflenwadau brechlyn.

3. Yn nodi bod cyflwyno brechlyn ledled Cymru a gweddill y DU yn dibynnu ar sicrwydd y cyflenwad gan gynhyrchwyr.

4. Yn nodi bod oedi o ran cyflenwi OAZ wedi cael effaith uniongyrchol ar gyflwyno’r brechlyn ym maes gofal sylfaenol.

5. Yn nodi strategaeth Llywodraeth Cymru i gyflawni 3 carreg filltir allweddol:

a) erbyn canol mis Chwefror – cynnig brechiad i holl breswylwyr ac aelodau o staff cartrefi gofal; aelodau o staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen; pawb dros 70 a phawb eithriadol o agored i niwed yn glinigol;

b) erbyn y gwanwyn – cynnig brechiad i bob grŵp blaenoriaeth arall yng ngham un, sef pawb dros 50 a phawb sydd â risg uwch oherwydd cyflwr iechyd sylfaenol;

c) erbyn yr hydref – cynnig brechiad i bob oedolyn cymwys arall yng Nghymru, yn unol â chanllawiau’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI).

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliant 2 a gyflwynwyd i’r cynnig.

</AI8>

<AI9>

8       Dadl Plaid Cymru  – Llifogydd yn Rhondda Cynon Taf

(30 munud)

NDM7561 Sian Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu ymchwiliad annibynnol i lifogydd yn Rhondda Cynon Taf.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu cymunedau yn Rhondda Cynon Taf a ledled Cymru rhag llifogydd, drwy:

a) sefydlu asiantaeth llifogydd i Gymru i gydlynu'r gwaith o reoli perygl llifogydd a'r ymateb i lifogydd;

b) dynodi lleiniau glas i gyfyngu ar ddatblygiadau diangen mewn ardaloedd lle mae perygl llifogydd sylweddol;

c) cynyddu buddsoddiad mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd a rheoli perygl llifogydd;

d) hwyluso ymchwiliadau annibynnol i lifogydd sylweddol er mwyn sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu;

e) sicrhau bod cyllid ar gael ar unwaith i gynghorau, gwasanaethau brys a Chyfoeth Naturiol Cymru i fynd drwy'r cam glanhau cychwynnol yn effeithiol; a

f) gweithio gyda'r diwydiant yswiriant i sicrhau y gall cartrefi a busnesau gael yswiriant fforddiadwy sy'n gysylltiedig â llifogydd.

[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]

Gwelliant 2. Rebecca Evans (Gwyr)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cymeradwyo gwaith yr ymatebwyr brys, yr awdurdodau rheoli perygl llifogydd a phawb a gyfrannodd at yr ymateb i achosion difrifol o lifogydd yn 2020 a 2021 yn Rhondda Cynon Taf ac ar draws Cymru;

b) sicrhau bod yr holl ymchwiliadau annibynnol ynghylch llifogydd yn destun craffu gan y cyhoedd ac arbenigwyr annibynnol fel bod y ffeithiau llawn ar gael a bod modd gweithredu yn eu cylch;

c) parhau i gefnogi ein Hawdurdodau Rheoli Perygl Llifogydd yn Rhondda Cynon Taf ac ar draws Cymru er mwyn sicrhau bod yr amddiffynfeydd yn parhau’n weithredol ac er mwyn helpu’r perchenogion cartrefi y mae’r llifogydd wedi effeithio arnynt a hynny wrth iddynt ymdopi â phandemig y coronafeirws; a

d) cefnogi’r mesurau yn ein Strategaeth Genedlaethol newydd ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud ein cymunedau’n fwy cydnerth fel eu bod yn gallu ymdopi â’r peryglon cynyddol ddifrifol sy’n deillio o’r newid yn yr hinsawdd.

</AI9>

<AI10>

9       Cyfnod pleidleisio

 

</AI10>

<AI11>

10    Dadl Fer

(30 munud)

NDM7560 Laura Anne Jones (Dwyrain De Cymru)

Paratoi at y dyfodol: manteision caeau chwaraeon porfa artiffisial yng Nghymru

</AI11>

 

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 2 Chwefror 2021

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>